Cyfieithu

CYFIEITHU

Nid yw’r Cyngor Llyfrau yn cynnig grantiau yn uniongyrchol i gyfieithwyr. Serch hynny, mae’n bosibl cael peth cefnogaeth tuag at waith cyfieithu (o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu o unrhyw iaith i’r Gymraeg).

Dylai cyhoeddwyr drafod eu prosiectau ymlaen llaw gyda Dr Lynne Williams (cyhoeddiadau Cymraeg).

 

E-BOST

Dr Lynne Williams – grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru

 

FFÔN

01970 624151

Mae modd cysylltu hefyd gyda chyrff cenedlaethol eraill sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i gyfieithwyr yn y maes llenyddol.

 

LLENYDDIAETH CYMRU

Mae cyfieithwyr yn gymwys i geisio am ysgoloriaethau prynu amser. Nid yw’r grantiau hyn ar gael i gyhoeddwyr.

 

CYFNEWIDFA LÊN CYMRU

Mae’r corff hwn yn cynnig grantiau tuag at gyfieithu llenyddiaeth o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i ieithoedd eraill. Rhydd flaenoriaeth i gyhoeddiadau sy’n debyg o gyrraedd marchnad trwy Gymru gyfan a’r tu hwnt. Nid yw’n ariannu cyfieithu i’r Gymraeg.