DYLUNIO A GOLYGYDDOL
Mae’r Tim Ddylunio yn cynnig gwasanaeth dylunio i gyhoeddwyr yng Nghymru. Bob blwyddyn bydd hyd at 100 o deitlau gwahanol yn mynd trwy ddwylo’r Adran.
Mae’r Adran yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
Dylunio cloriau llyfrau
Dylunio llyfrau o glawr i glawr
Darparu deunydd gweledol, megis darluniau a ffotograffau, ar gyfer llyfrau.
Mae’r Uwch Swyddog Dylunio a’r ddau Swyddog Dylunio yn ddylunwyr graffig profiadol. Er eu bod yn ymgymryd â rhan sylweddol o waith yr Adran eu hunain, maent hefyd yn cydweithio â rhwng 30 a 40 o ddylunwyr, darlunwyr a ffotograffwyr allanol, gan fanteisio ar eu harbenigedd yn y gwahanol feysydd.
Yr Adran sy’n gyfrifol am ddylunio holl gyhoeddiadau mewnol Cyngor Llyfrau Cymru.
Gwahoddir dylunwyr a darlunwyr a fyddai’n hoffi gweithio ar lyfrau i gysylltu â ni.
MANYLION CYSWLLT
Sion Ilar
Uwch Swyddog Dylunio
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Ffacs: 01970 625385
E-bost: sion.ilar@llyfrau.cymru
GOLYGYDDOL
Mae’r Tim Golygyddol yn gwasanaethu cyhoeddwyr Cymru, ac yn delio â hyd at 180 o deipysgrifau bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt yn Gymraeg.
Deunydd darllen hamdden a dderbynnir; ni fydd yr Adran yn ymdrin â deunydd addysgol.
GWASANAETHU CYHOEDDWYR
I gyhoeddwyr, mae’r Adran yn cynnig gwasanaeth golygyddol am bris gostyngol yn y Gymraeg a’r Saesneg, h.y. golygu teipysgrifau a chywiro proflenni. Bydd yn gweithredu yn y modd hwn ar ran hyd at 20 o gyhoeddwyr, gan fanteisio ar gymorth tîm bychan o olygyddion allanol profiadol yn ôl yr angen. Rhoddir blaenoriaeth bob amser i lyfrau sydd wedi derbyn rhai o grantiau cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau.
MANYLION CYSWLLT
Dr Huw Meirion Edwards
Uwch Swyddog Golygyddol
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Ffacs: 01970 625385
E-bost: huw.meirionedwards@llyfrau.cymru